Neidio i'r prif gynnwy

Mae newidiadau posibl ar y gweill i helpu pobl sy'n cael trafferth talu eu bil treth gyngor ar amser.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nod y newidiadau yw helpu i atal pobl rhag cael eu dal mewn cylchoedd o ddyledion parhaus trwy wella ymgysylltiad rhwng cynghorau a thrigolion a gwneud y broses gasglu yn gliriach.

Ar hyn o bryd, mae methu taliad treth gyngor yn golygu y gall fod angen i bobl dalu'r bil blynyddol yn llawn os nad ydyn nhw'n talu o fewn saith diwrnod ar ôl derbyn nodyn atgoffa, ac mae'r gofynion ar gynghorau i anfon nodiadau atgoffa a hysbysiadau terfynol yn rhy gymhleth.

Bydd y newidiadau, sy'n destun ymgynghoriad, yn rhoi mwy o amser i bobl adfer ar ôl cael anawsterau ariannol annisgwyl, yn rhoi'r cyfle iddynt gael cyngor ac yn caniatáu ar gyfer gwell cyfathrebu rhwng cynghorau a thrigolion.

Mae'r dreth gyngor yn darparu cyllid hanfodol o dros £2.8 biliwn ar gyfer gwasanaethau lleol gan gynnwys ysgolion a gofal cymdeithasol. Mae'r system bresennol yn llwyddo i gasglu dros 96% o'r dreth gyngor yn rheolaidd flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae cymorth ar gael i helpu pobl fodloni eu rhwymedigaeth i dalu’r dreth.

Dylai pobl sy'n cael trafferth talu'r dreth gyngor gysylltu â'u cyngor a gwasanaethau cynghori am ddim, sydd ar gael drwy Gronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru a'r ymgyrch Hawliwch yr hyn sy'n Ddyledus i Chi, cyn gynted â phosibl i atal eu dyledion rhag cynyddu.

Mae'r ymgynghoriad 12 wythnos bellach ar y gweill.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford:

Rydyn ni wedi cyflawni nifer o welliannau i'r dreth gyngor yng Nghymru i'w gwneud hi'n decach. Mae ein newidiadau arfaethedig diweddaraf yn canolbwyntio ar atal dyledion cynyddol, trwy roi mwy o amser i gynghorau lleol drafod â phobl sydd wedi methu taliad, i ddeall eu hamgylchiadau a chynnig cymorth iddynt cyn bwrw ymlaen â chamau i adfer yr arian sy’n ddyledus.

“Rwy'n gwybod bod cynghorau eisiau helpu lle bynnag y bo modd, a byddwn yn lledaenu'r arferion gorau rydyn ni wedi'u gweld trwy'r fframwaith tecach hwn. Bydd hyn yn helpu cynghorau i wahaniaethu rhwng pobl sy'n cael trafferthion a'r rhai sy'n datgysylltu oddi wrth y broses yn barhaus. Mae amserlen hirach hefyd yn caniatáu i aelwydydd adfer ar ôl digwyddiadau neu amgylchiadau annisgwyl a allai fod wedi cyfrannu at eu trafferthion ariannol.